Beth am ddod allan i’r awyr iach, rhoi help llaw yn ein caeau bwyd gwyllt, dysgu tipyn am arddio a natur a'i ddefnydd er lles ein cyrff ac fel arall, ac os yn dysgu'r iaith neu angen codi eich hyder yn eich iaith yna manteisio ar y cyfle i ymarfer eich Cymraeg mewn cwmni da a chefnogaeth tiwtores proffesiynol? Continue in English?
Yn ein sesiynau, mi fyddwn ni’n cyfuno garddio, natur a gweithdai a’r Gymraeg mewn ffordd ymarferol a hamddenol. Wrth helpu i glirio, paratoi'r tir, tyfu a gofalu cnydau gwyllt a fel arall, bydd cyfle ym mhob sesiwn i ddysgu mwy am sawl peth ac yn naturiol law yn law yn defnyddio’r Gymraeg. Byddwn yn cychwyn gyda geirfa sy’n berthnasol i’r gwaith, enwau planhigion, patrymau defnyddiol am gyfnod byr cyn symyd ymlaen i fynd a gwneud gan adael i’r sgwrs lifo’n naturiol wrth i ni weithio gyda’n gilydd.
Mae croeso cynnes i siaradwyr Cymraeg rhugl sydd am ymgyfarwyddo â geirfa natur a garddio, ac i unrhyw un sy’n hapus i gefnogi dysgwyr i ddefnyddio’u Cymraeg. Mae croeso hefyd i ddysgwyr o bob lefel – does dim rhaid bod eich Cymraeg yn berffaith, geith fod dim mwy na 'paned' a 'dw i'n hoffi coffi'. Y peth pwysig ydy dod draw, rhoi cynnig arni a mwynhau defnyddio’r iaith.
5 Ebrill, 2025
—y gardd
8 Ebrill, 2025
—llinyn
Mae digon o bethau gwahanol i’w gwneud a’u dysgu. Efallai y byddwn yn adeiladu gwelyau hugel, clirio cerrig, dysgu sut i wneud ffibrau naturiol, casglu bwyd gwyllt a’i goginio, neu edrych yn agosach ar wahanol agweddau ar fyd natur.
O ran yr iaith mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi cyfle naturiol i ddefnyddio geirfa newydd a chael sgwrs yn Gymraeg – heb bwysau dosbarth ffurfiol. Mae’n ffordd wych o fagu hyder, gwneud ffrindiau newydd a defnyddio’ch Cymraeg y tu allan i’r dosbarth.
O ran ymddiddori mewn natur a'i defnydd, neu garddio, dyma ni'ch cyfle i ymuno fel yr hoffwch, dysgu am blanhigion gwyllt ein bro, beth i'w fwyta a sut i'w baratoi, gwneud cynnyrch ar gyfer y corff, bod yn greadigol.
Ond nid dysgu iaith na garddio yw phopeth. Mae’r sesiynau hefyd yn gyfle i gamu i ffwrdd o wallgofrwydd bywyd bob dydd. I gael eich dwylo yn y pridd, anadlu’r awyr iach, dysgu rhywbeth newydd a threulio amser mewn cwmni da.
Felly, os ydych chi’n siarad Cymraeg yn rhugl ac eisiau defnyddio mwy o eirfa naturiol, neu os ydych chi’n ddysgwr sy’n chwilio am ffordd wahanol o ymarfer eich Cymraeg – dewch draw a rhoi cynnig arni.
Dewch i dyfu gyda ni,
dysgu gyda ni,
a mwynhau’r Ennyd.
||||
Daw dim i'r Ennyd yn gyflawn, mae popeth ar ei drywydd ei hunain, yn symyd,rhyw drawsnewidiad, ac yn disgyn i fewn i'w newydd wedd. Mae'r tir ei hun yn ein hatgoffa, yn ein haddysgu nad oes dim yn gyson, dim ond newid. Daw'r llwybrau drwy eu cerdded, y sglodion coed arnynt yn faeth i'r tir cyn fod yn fan plannu eto pen ychydig ac mi droediwn ar newydd hynt.
5 Ebrill, 2025
—Magledigaeth
8 Ebrill, 2025
—cwt iâr

— 1 —
Dewch i ddysgu sut i wneud llinyn o ffibrau planhigion gwyllt – o adnabod y planhigion a gwybod pa rannau i'w cynaeafu, pryd i'w casglu, hyd at y grefft o ddatgelu'r ffibrau a dysgu sut i droelli a phlygu eich llinyn eich hun... a llawer mwy ar hyd y ffordd.
Manylion Pellach:
Does dim angen unrhyw brofiad blaenorol – dewch â'ch chwilfrydedd, a'ch parodrwydd i gael eich dwylo'n fudr! Erbyn diwedd y gweithdy, byddwch yn mynd adref gyda'ch llinyn wedi'i wneud â llaw eich hun, y sgiliau i barhau i'w wneud adre, ac ychydig o eiriau ac ymadroddion Cymraeg sy'n ymwneud â'r grefft hynafol hon.
Mae'r gweithdy'n berffaith ar gyfer selogion crefftau'r goedwig (bushcraft), chwilwyr bwyd gwyllt, crefftwyr, garddwyr, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn sgiliau traddodiadol, byw'n gynaliadwy, neu sydd am gael cyfle i ddefnyddio'u Cymraeg.
— 3 —
Gweithdy hyfryd lle y gawn edrych a chwarae gyda gwlan. Cewch ddysgu drwy wneud ....dysgu sut i'w ddefnyddio yn yr ardd, gyda chrefftau syml, gweadau a chwarae creadigol. Llawer o hwyl, ac yn defnyddio cnu lleol pob tro.
Manylion Pellach:
Mi edrychwn ar briodweddau gwlân trwy weithgareddau ymarferol fel ffeltio, paratoi ffibr a gwneud syml. Yn addas ar gyfer oedolion neu deuluoedd, mae'n cynnig ffordd gyffyrddol a chreadigol o ailgysylltu â deunyddiau naturiol a sgiliau crefft traddodiadol.

26 Mai, 2025
—y tiroedd
26 Mai, 2025
—ffelt
||||
Natur a'i ddefnydd — dyna i chi rywbeth sy'n dal fy sylw, a fedra i ddim peidio â rhyfeddu at rywbeth gwahanol yn ddyddiol, boed hynny'n lliwiau'r egroes yn disgleirio'n oren-goch yn erbyn porffor-du dwfn yr eirin bach, hen stori, defnydd sydd wedi mynd yn angof, neu ryw greadur bach dw i wedi cerdded heibio iddo ganwaith heb gymryd ennyd i stopio a dweud "Helo'na!" ac i ddysgu rhywbeth ganddo. Dyma lle dw i'n rhannu'r darganfyddiadau yma, yr atgofion, a'r pethau sy'n dal i wneud i mi stopio a chymryd golwg agosach, gyda geiriau Cymraeg wedi'u plethu drwy'r ysgrifennu achos mae ein hiaith a'n tirwedd wedi bod mor agos at ei gilydd erioed. Tyrd i grwydro gyda fi — natur a'i ddefnydd, planhigion, pobl, straeon a rhyfeddod di-ben-draw y byd naturiol.