Caeau Ennyd
Pen Cefn Pella
Ffordd Pen y Cefn
Tanygrisiau
Blaenau Ffestiniog
LL41 3SL
Rocky landscape with flora

Ennyd

Yma mi fagwn dealltwriaeth, amynedd a gofalgarwch. Yma cawn lonnyddwch.

||||

Y Tir

Cwt Building

Eiliadau

Daw dim i'r Ennyd yn gyflawn, mae popeth ar ei drywydd ei hunain, yn symyd,rhyw drawsnewidiad, ac yn disgyn i fewn i'w newydd wedd. Mae'r tir ei hun yn ein hatgoffa, yn ein haddysgu nad oes dim yn gyson, dim ond newid. Daw'r llwybrau drwy eu cerdded, y sglodion coed arnynt yn faeth i'r tir cyn fod yn fan plannu eto pen ychydig ac mi droediwn ar newydd hynt.

llifau

Yma mi fagwn dealltwriaeth, amynedd a gofalgarwch. Yma cawn lonnyddwch. Yn y Ennyd, digwyddir alchaemy pan y gwnaf fy eli, a phan fyddaf yn cynnal gweithdai i ddysgu a rhannu gydag eraill y wyrth o weithion reddfol, o wrando ar ein planhigion, elfen o arbrofi, o arafu, o fod.

Gweith

Yma hefyd mae'r iaith yn plethu i fewn ac allan o bobpeth,fel y gwynt rhwng y dail, fesul dipyn wrth chwarae gyda'r pridd, wrth gwneud dim, heb angen perffeithrwydd. Mae yma'n le o rannu, lle bo' sgiliau'n rhywbeth sydd yn cael eu rhannu'n hytrach na'u dal yn gudd oddiwrth eraill. Yn cael eu pasio ymlaen o un i'r llall fel y traddodiad Cymreig o basio straeon ymlaen. Mi eith syniad a sgwrs, yn weithdy neu'n weithgaredd, gyda'r tir yn rhoi rhywbeth i ni pob tro, a ninnau mewn gobaith ein bod yn rhoi'n ol hefyd. Does dim gwir cychwyn na diwedd am fod yma, does dim anelu am berffeithrywdd, dim ond am gyfnod o lonyddwch, o ddianc, o rannu ac o ddatblygu heb sylwi…o'r tir, osgiliau, o'n hiaith neu o'n hunain.

||||

Dewch fel ag yr ydych.

Cerddwch y llwybrau fel ag y maent.

Sylwch ar bethau fel ag y maent.

A chroeso, pob croeso i'r broses.