YSGRIFAU 01
Y GOLLEN Y Gollen a’i chynffonau wyn bach yn dawnsio i sisial y dail dan swyn yr awel, pa un ohonom sydd ddim a lle arbennig i’r goeden hynafol yma! Pwy sydd ddim ac atgofion melys o wirioni darganfod y cnau bach gwyrdd. A nhwythau’n dechrau dangos eu gwynebau rhwng y dail crynion sydd wedi bod yn eu gwarchod yn ofalus rhag lygid llwglyd ninnau oll.
Fy atgof cyntaf i ohoni yw mynd i chwarae lawr Cwm Bowydd, (Blaenau Ffestiniog), a’r cnau yn chwarae pig a mig gyda ni .Wrth reswm, rhaid oedd mynd amdani i’w casglu a chael gwledd. Codi brigyn neu garreg o’r llawr i geisio eu curo i lawr, ac yna dysgu taw gwell fyth oedd mynd ar gefnau’n gilydd o dan y canghennau ac edrych i fyny …..doedd dim cystal cuddio arnynt wrth chwilota o odditan y canghennau fel hyn. Yr hwyl wedyn o geisio eu cael allan o’u plisgyn ….ei rhoi rhwng dannedd cefn fy ngheg a’i chwalu ( gan wneud dim lles i’m dannedd). Hynny hyd gael un sur, a dysgu’n sydyn wedyn i’w chwalu dan garreg ar lechan ger llaw. Felly oedd y gorau, llawer gwell na cheisio ei chwalu dan droed, lle basai mwd yn siŵr o ffeindio’i ffordd at y cneuan cyn ni!
O! y gwirioni wedyn gyda’r blas, y ceisio casglu cymaint â phosib i fynd adre. Yn wirion o hastus, yn farus bron, heb feddwl dim am y creaduriaid eraill fu’n awyddus i’w casglu hefyd, a llawer mwy o’u hangen na ninnau. Gwirioni darganfod a chodi’r rhai cwymp, yn casglu rhai gwyrdd, yn mynd adre gyda chnwd go lew yn wen o glust i glust. Yna, dros y dyddiau canlynol, sylwi bod llawer o’r rhai gwyrdd ddim mwy na gewyn bys bach, a’r rhan fwyaf o’r rhai cwymp yn ddrwg neu wedi eu bwyta gan ryw anifail bach arall yn barod. Er hynny, hwyl a sbri fuodd hi pob blwyddyn wedyn.
Nid ond dechrau dilyn traddodiad hyfryd y bu hyn i mi, ond y cam cyntaf o flynyddoedd o ddysgu am y Gollen. Yn ôl pob sôn hi oedd un o’r coed cyntaf i dyfu’n ôl wedi Oes yr Ia, cyn i’r Fedwen a’r Dderwen gymeryd ei lle. A hyn gan iddi fod yn goeden sy’n tyfu orau mewn pridd isel ei faeth. Pridd rhy faethlon ac mi y maeth i’w dail yn hytrach na’i blodau a’i chnau.
Gan iddi fod yn un o’r coed cyntaf i dyfu wedi Oes yr Ia ceir amrywiaeth eang o chwedlau ac arwyddocad symbolaidd ynghlwm iddi. Credir iddi ddod a doethineb, heddwch, ffrwythlondeb a chynaladwyaeth, er bod rhai yn ei hystyried yn anlwcus. Rŵan ‘ta, gwyddwn fod darganfod cnau dwbl yn lwcus iawn, ond a wyddoch chi eu bod yn handi i ddychryn gwrach i ffwrdd? Os ddowch chi ar ei thraws does dim ond angen taflu cneuan ddwbl at y wrach ac mi sgrialith.
Mae breuddwydio am gnau cyll yn darogan darganfod trysor. Os am atgoffa hen gariad eu bod wedi eu gwrthod, hen draddodiad y Ffon Wen yw’r un i chi! Ar ddiwrnod eich priodas mi fasech yn anfon pren collen di-risgl, weithiau gyda rhuban du arno, a nodyn i’w atgoffa nad nhw'r un i chi! Mae nod o hyn yn digwydd yn Sir Trefaldwyn hyd at yr 1920au, a hyd yn oed rhai yn cael eu gyrru drwy’r post!
Ceir duwiau diri ynghlwm â hi; Aengus, Artemis, Diana, Hermes, McColl, Merciwri a Thor. Mi gyfeiriaf hefyd at San Collen, a'i gysylltiad â Llangollen yn ôl yn y seithfed ganrif. Bu iddo farw ar Fai’r 21ain neu’r 22ain, a cedwid ei ŵyl mabsant ar yr un dyddiad. Dyna pam fod ffair Llangollen ar y diwrnod hwnnw (y 31ain ar ôl newid y dull o gyfrif o’r calendr Greogoraidd I’r un Juliaidd). Tybed hefyd os taw dyma’r rheswm i’r goeden Gollen gael ei chysylltu a’r arwydd Sidydd Gemini (Mai 22 i Fehefin 21) …ta cyd ddigwyddiad llwyr yw hynny?
But enough of that for now. What about looking at her name…. Y Gollen. I mentioned earlier that some people Ond digon am hynny am y tro, beth am edrych ar ei henw …. Y Gollen. Soniais yn gynharach y bod rhai’n ei gweld yn anlwcus, ofergoeledd Celtaidd yn ei chysylltu a choled a niwed. Rhyfed felly fod Colli neu Coll yn swnio mor debyg i rai o’r hen enwau Celtaidd am y Gollen :
Gaeleg/Gwyddeleg: Calltuinn, Calldainn, Colluin.
Cernyweg: Col Widen.
Manaweg: Coll.
Gaeleg: Coill.
Ond wedyn, ddim mor rhyfedd a hynny o ystyried y canlynol::
coll+-i, sy’n cydfynd a’r Lladin clādēs (distryw) a’r hen Wyddeleg coll distryw).
Difyr ynde!
Diddorol hefyd fod y ffurf Saesneg Hazel yn dod o’r hen Saesneg Haesl ac yn golugu gwialen bwer.
Er ei bod yn tyfu ar draws Cymru, ac yn hynafol, does dim cymaint a’r disgwyl o enwau lleoedd ynghlwm. Gwn am y canlynol, wyddoch chi am fwy?
• Berllan-gollen, Morgannwg
• Llangollen, Sir Ddinbych
• Nant-y-gollen, Swydd Amwythig
• Allt Ffynnon-gollen, Sir Gaerfyrddin
• Allt Nantygollen, Sir Gaerfyrddin
• Coed y Gollen, Morgannwg
• Coedlwch Cwrt-y-Gollen, Sir Fynwy
• Cwm Llangollen, Sir Ddinbych
Mae’r Gollen yn tyfu’n eithaf cyflym, tua 40 i 60 cm y
flwyddyn, hyd at uchder o thua 12 medr, ac mae’n
byw am oddeutu 80 mlynedd, oni bai ei bod yn cael ei
thocio’n rheolaidd yna gall fyw am gannoedd o flynyddoedd. Yn y gorffennol gwnaethpwyd defnydd eang o’i phren, o waywffon i fwa, basgedi, ffensys, staff, hudlath, ffyn cerdded a gwialen bysgota. Debyg iawn bod hyn wedi bod yn digwydd ers cyn cof, mae cofnod o wialen bysgota wedi’i gwneud o gollen yn dyddio mor bell yn ôl a 2,000 o flynyddoedd cyn Crist.
Gwna siarcol da, a gwna bowdr du pan y cymysgwch
wedi ei falurio’n dda â’r maint iawn
o swlffwr a solpitar ….ond nid wyf yn
argymell i neb wneud hynny!
Gan ei bod yn taflu allan dipyn o goed bach newydd
mae’n dda i amddiffyn y tir rhag erydiad dwr. Wedi ei
thocio mae’n cynnig cynefin clyd i’r adar sy’n nythu ar
y ddaear fel yr Eos, y Troellwr mawr, Melyn yr Eithin
a Thelor y Helyg.
Mae sawl anifail yn mwynhau ei chnau, y wiwerod,
llygod mawr, llygod maes, a’r pathew yn arbennig.
Mwynheir y cnau hefyd gan adar fel Cnocellod y Coed, Titwod, Colomennod Coed, Teloriaid y Cnau, a Sgrech y Coed.
Yn aml mae’r boncyffion wedi’u gorchuddio â mwsogl,
llysiau’r afu a chen. Mae sawl cen Graphidion yn
ddibynol arno, ac mae 21 gwahanol fath o ffwng a pherthynas dda a’r Gollen.
Ceir hefyd salw trychfilyn sy’n hoff o’i ddail, fel larfa’r pryfetyn Craesus septentrionalis a lindus y gwifyn Parornix Devoniella.
Mae’r gneuan ei hunain yn faethlon iawn gyda
oddeuetu 15% protin, 60% asidiau brasterog, fitaminiau gan gynnwys fitamin E a B6, sinc, haearn, calsiwm, potasiwm, seleniwm a magnesiwm. Defnyddiwn ni eu olew mewn cynnyrch i’n crwyn. Mae ganddom draddodiad o yfed te dail collen ar gyfer annwyd ac i reoli llif trwm menywod. Defnyddir y te hefyd yn draddodiadol i drin briwiau, a hynny am ei fod yn egr. Defnyddir y dail i wneud cawl porc sbeislyd o’r enw Noteye yn yr canol oesoedd, a gwneir blawd o’r cynffonau wyn bach yn Slofacia.
Mae llawer mwy i’w ddweud am y Gollen, ac mae’n siwr y gwna’i ymhelaethu rhyw ben, ond dw i am
adael chi am rŵan gyda fy hoff reset i gnau cyll, sef
y CnauEla!
I wneud CnauEla cartref syml, dilynwch y camau hyn:
Mwynhewch (Enjoy) ! Xx